Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr 2024
Amser:
09.01 -
09.37
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan Jane Hutt AS Paul Davies AS (yn lle Darren Millar AS) |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Matthew Richards, Cyfarfwyddwr Business Y Senedd Dros Dro Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Aled ap Neill, Clerc y Cyfarfod Llawn Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar AS. Roedd Paul Davies AS yn dirprwyo ar ei ran.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
· Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Storm Darragh (45 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i gynnwys yr eitemau a ganlyn ar yr amserlen:
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Cynnig i ddiddymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024 (30 munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.45pm
Dilynodd Jane Dodds ymholiad a godwyd ganddi yn y cyfarfod blaenorol ynghylch pryd y byddai Datganiad Llafar ar y Cynllun Lles Anifeiliaid yn cael ei amserlennu, a nododd arwydd blaenorol y byddai hyn yn digwydd cyn diwedd y flwyddyn hon. Dywedodd y Trefnydd y bydd Datganiad Ysgrifenedig ar yr ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig ac y byddai hi’n trafod y mater o Ddatganiad Llafar ymhellach gyda’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn cyhoeddi aelodaeth newydd Senedd Ieuenctid Cymru ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth. Bydd y cyhoeddiad yn rhagflaenu Cwestiynau’r Prif Weinidog a bydd delweddau gweledol yn cyd-fynd ag ef.
Dydd Mercher
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
· Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlynd i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Dydd Mawrth 7 Ionawr 2025
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni dros Gymru (60 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Technoleg a’r Gymraeg (45 munud)
Dydd Mawrth 14 Ionawr 2025
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau’r Gaeaf ar y GIG (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Gwneud y Gorau o Incwm a diweddariad ar waith i weithredu Siarter Budd-daliadau Cymru (45 munud)
· Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025 (15 munud)
Gofynnodd Heledd Fychan fod y Llywodraeth yn ystyried cyflwyno datganiadau llafar ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr a sut y mae’n bwriadu gwneud y gorau o gymhwysedd tîm pêl-droed cenedlaethol menywod Cymru ar gyfer twrnamaint yr Ewro 2025. Ymatebodd y Trefnydd gan ddweud y byddai'n rhoi ystyriaeth i'r ddau fater.
Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 22 Ionawr 2025 -
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl fer (30 munud)
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais gan Adam Price AS i amserlennu dadl ar gynnig i ddiddymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024, yr oedd wedi eu cyflwyno ar 4 Rhagfyr. Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai’r cyfnod o 40 diwrnod ar gyfer ystyried cynnig o’r fath o dan Reol Sefydlog 27.2 yn dod i ben ar 10 Rhagfyr 2024.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i neilltuo amser i’r cynnig gael ei drafod yn y Senedd heddiw, ac i gyflwyno cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn galluogi’r ddadl i gael ei chynnal.
Bu'r Pwyllgor Busnes yn ystyried cais a ddaeth i law gan Mabon ap Gwynfor AS i drefnu dadl ar Gynnig Heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd yn ei enw ynghylch agenda 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru. Cytunodd y mwyafrif o aelodau’r Pwyllgor Busnes y dylid trefnu dadl ar ddyddiad i’w gadarnhau yn ystod y tymor nesaf.
Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:
· gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Cyflogaeth at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 7 Mawrth 2025; a
· chyfeirio’r Memorandwm atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad erbyn 17 Ionawr 2025 o ran hwn a phob Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol blaenorol ar y Bil.
Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai trafodaethau’n parhau rhwng Comisiwn y Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch a fydd yn bosibl ymestyn y dyddiad cau ymhellach ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) a’r Bil Hawliau Rhentwyr.
Nododd y Trefnydd hefyd y bydd y Llywodraeth yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Data (Defnydd a Mynediad) yr wythnos hon, i’w gyfeirio’n ffurfiol ar gyfer craffu arno ym mis Ionawr, a bod y Llywodraeth ar hyn o bryd yn rhagweld y bydd yn argymell dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 7 Mawrth ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn.
Bu'r Pwyllgor Busnes yn ystyried yr ymatebion a gafwyd gan Aelodau a grwpiau'r pleidiau i'r cynnig i dreialu fformat newydd ar gyfer dadleuon ffurf hirach o bryd i'w gilydd, a chytunwyd i fwrw ymlaen â'r treial. Cytunodd y Pwyllgor:
· i ddychwelyd mewn cyfarfod dilynol i ystyried cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12.19 – i alluogi cynnal dadleuon ar sail pynciau yn hytrach na chynigion - a chytuno ar ychwanegiadau at ganllawiau yn ymwneud â'r fformat newydd;
· i ddyrannu y ddadl gyntaf ar gyfer dydd Mercher 19 Mawrth dros dro, yn amodol ar gytuno ar y newid gofynnol i'r Rheolau Sefydlog a'r canllawiau wedi'u diweddaru;
· i amserlennu'r ddadl gyntaf am 120 munud, gydag adolygiad o hyn i ddilyn y ddadl gyntaf;
· i amserlennu pob un o'r dadleuon yn lle Dadl Aelod a Dadl Fer;
· i ddefnyddio'r teitl 'Dadl Agored /Open Debate' ar gyfer yr eitem newydd;
· y dylid gosod y terfynau amser a ganlyn ar gyfer cyfraniadau yn y canllawiau: cyfanswm o 20 munud ar gyfer cyfraniad agoriadol a chloi, cyfraniadau cyntaf yr Aelodau wedi’u cyfyngu i wyth munud ac unrhyw gyfraniadau dilynol i dri munud, a dyraniad o 10 munud i Aelod sy’n siarad fel cynrychiolydd y Llywodraeth;
· na fyddai unrhyw gyfraniad gan y Llywodraeth yn cael ei wneud fel ymateb i’r ddadl;
· i ddychwelyd mewn cyfarfod dilynol i ystyried sut y caiff y testun ar gyfer pob dadl ei ddewis.